
Arfordir Gorllewinol, Yr Alban
Mai 22 - 27 2022
-
5 diwrnod o hyfforddiant a theithiau diwrnod ceufadu môr yn archwilio arfordir gorllewinol Yr Alban. Gall cynnwys ynysoedd Kerrera, Lismore neu Shuna ger Oban a'r lochau ger Fort William
-
Yn addas ar gyfer ceufadwyr môr canolradd sydd â phrofiad blaenorol o badlo mewn gwyntoedd i fyny at 3-4 ar Raddfa Beaufort
-
Yn agored i bobl (dros 18 oed yn unig)
-
Llety hunanarlwyo
-
Pris £695 yr un

Gwybodaeth Ychwanegol
Mae'r dyfroedd o amgylch Oban, ynysoedd Kerrera, Lismore, Shuna, lochau ger Fort William ardaloedd cyfagos yn cynnig amrywiaeth da o opsiynau ceufad môr. Fedrwn cynnig ffocws ar deithiau neu sgiliau. Fedrwn weithio ar sgiliau yn y gwynt a'r llanw gan gynnwys torri i mewn ag allan o lif, neu efallai achub eich hunain a'ch gilydd, cynllunio teithiau neu ganolbwyntio ar wneud teithiau diwrnod er mwyn archwilio'r ardal.
Mae'r trip yma'n un preswyl yn aros mewn llety hunanarlwyo
Mae'r daith hon yn cael ei rhedeg ar y cyd rhwng y fi (Anita Daimond) ag Alice McInnes (Sea Kayak Alice). Sef hyfforddwraig a thywysydd profiadol o Gaeredin sy'n rhedeg teithiau ceufad môr a hyfforddiant yn yr Alban.
Dilynwch y ddolen yma i safle we Alice er mwyn gweld mwy o wybodaeth ac archebu
Cysylltwch efo fi am ragor o wybodaeth os dymunwch sgwrsio yn y Gymraeg.

