top of page
Tripiau ag Hyfforddiant Canolradd/ Is-Canolradd

​

Mae gan bob taith ffocws gwahanol a all fod yn fywyd gwyllt, hanes, daeareg neu gyfuniad o'r rhain a gellir ei addasu i weddu i chi. Maent yn addas ar gyfer oedolion, pobl hÅ·n a phobl ifanc 16 oed neu hÅ·n sydd â lefel gymedrol o ffitrwydd ceufad. Mae croeso i chi gysylltu â ni i drafod eich anghenion a'ch diddordebau.

​

Wedi'i leoli o fewn cyrraedd dwy Ardal o Harddwch Cenedlaethol Eithriadol mae gennym ddigon o leoliadau gwych i ddewis ohonynt. Mae gan Ynys Môn a Phen LlÅ·n rai o'r amodau llanw mwyaf heriol yn y DU; mae’ch arweinydd yn defnyddio gwybodaeth am y llanw er mwyn ddewis lleoliadau priodol i chi badlo. Gallant hefyd ddehongli'r bywyd gwyllt, hanes, llên gwerin a thirffurfiau lleol.

​

Bydd y lleoliad ar gyfer y daith yn cael ei benderfynu ar sail amodau llanw, y tywydd ynghyd â gallu a diddordeb y grŵp. Gwelwch isod gwybodaeth am teithiau sydd wedi’i thema er mwyn ddarganfod mwy am rai o'r  profiadau fedrwn wneud.

​

Lefel Gallu Canolradd:

​

Is - Canolradd

​

Padlo’n hyderus mewn llinell syth a throi gan ddefnyddio amrywiaeth o strôc ar ddŵr gwastad a gwyntoedd ysgafn. Wedi ymarfer troi caiac drosodd yn yr awyr agored tra gwisgo 'spraydeck'. Yn gallu cael yn ôl i mewn i'w ceufad mewn dŵr dwfn gyda chymorth. Wedi bod ar fwy na 5 taith ceufad môr ar ddŵr gwastad.

​

Canolradd

Padlo’n hyderus mewn llinell syth a throi gan ddefnyddio amrywiaeth o strôc ar ddŵr gwastad mewn gwyntoedd Beaufort 3-4 a thonnau hyd at 1.5m. Wedi ymarfer troi caiac drosodd yn yr awyr agored tra gwisgo 'spraydeck' ac wedi ymarfer cael yn ôl i mewn iddi ar ben eu hunain. Yn gallu cael yn ôl i mewn i'w ceufad mewn dŵr dwfn yn sydyn gyda chymorth . Wedi bod ar fwy na 10 taith ceufad môr. Wedi dechrau dysgu rholio eu ceufad ac wedi ymgymryd â rhywfaint o hyfforddiant achub.

​

bottom of page