top of page

Clogwyni Nythu Cyffroes : teithiau tywys ceufad môr i weld adar yn nythu 

 

  • Ar gael rhwng Ebrill a Gorffennaf bob blwyddyn - i gyd-fynd â'r tymor nythu

  • Teithiau diwrnod i leoliadau yng Ngogledd Orllewin Cymru

  • Mae'r prisiau'n cychwyn o £95 y pen y dydd (ar gyfer unigolion mewn grwpiau bach)

  • Fedrwch logi ceufad môr, cysylltwch â ni am fanylion a phrisiau

  • Yn agored i ceufadwyr dros 14 mlynedd yn unig (rhaid i bobl ifanc ‘dan 18 cael ei gorchwylio gan oedolyn)

Sea Kayaking Trefor.jpg

Gwybodaeth Bellach

 

Mae clogwyni môr Ynys Môn, Pen Llŷn a'r Gogarth Mawr a Fach ger Llandudno yn rhai o'r lleoedd gorau yn Ewrop i weld adar nythu clogwyni môr fel Gwylogod a Llursod. Mae'r adar hyn yn nythu mewn cytrefi trwchus ar silffoedd. O'n ceufadau môr gallwn eu gweld a'u clywed wrth iddynt fod yn brysur yn eu safleoedd nythu ac yn hedfan allan i'r môr i bysgota.

Rydym yn cadw pellter gofalus o'r clogwyni sy'n sicrhau cyn lleied o aflonyddwch a phosib a'r profiad bywyd gwyllt gorau posibl. Gyda channoedd o adar yn hedfan uwch ein pennau ac yn gorffwys ar wyneb y môr mae'n brofiad trochi bywyd gwyllt na ddylid ei golli.

Yr adar eraill y byddwn tebyg eu gweld yw pâl, gwylogod du, brain coesgoch ac adar drycin Manaw yn dibynnu ar yr ardal rydyn ni'n ceufadu.

Bydd y lleoliad ceufadu yn dibynnu ar y tywydd a gallu'r grŵp. Gallwn ddarparu teithiau dan arweiniad, rhoi hyfforddiant neu gymysgedd o'r ddau yn ystod y dydd. Rhowch wybod i ni am eich profiad wrth archebu i'n helpu ni i gynllunio yn unol â hynny.​

Shags preparing to nest.jpg
P6085772.JPG
birds on water panorama.jpg
bottom of page