top of page
Sea Môr Kayaking: Teithiau Ceufad Môr Gogledd Cymru

Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o ddiwrnodau blasu ceufad môr a theithiau tywys ceufad ar gyfer dechreuwyr, ceufadwyr canolradd ac uwch. Rydym hefyd yn cynnal diwrnodau arbennig i deuluoedd a gallwn ddarparu ar gyfer grwpiau menywod yn unig.

 

Profwch fywyd gwyllt a thirwedd hanesyddol arfordir Gogledd Cymru o safbwynt newydd o dan arweinyddiaeth tywyswyr gwybodus. O'n canolfan ym Mharc Cenedlaethol Eryri rydym yn defnyddio Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Pen Llŷn ac Ynys Môn yn bennaf. Cysylltwch â ni er mwyn archebu ar un o’n tripiau, holi am drip yn ôl y themâu isod , neu i drefnu taith neu hyfforddiant geufad môr wedi addasu  i’ch anghenion.

Dyddiadau 2022​ 

 

Adeiladu hyder mewn dŵr dynamig 18/19 Mehefin

Eisio datblygu’ch hyder a sgiliau er mwyn padlo mewn amodau dynamig ar y môr? Mi fyddwn ni’n datblygu’ch sgiliau symud y ceufad a defnyddio nhw mewn amgylcheddau priodol a allai gynnwys ymysg creigiau, llanw sy’n llifo neu donnau. Mi ddylech chi fod yn gyffyrddus mewn ceufad môr yn amodau dŵr gwastad a gwyntoedd ysgafn ac yn awyddus i ddatblygu’ch sgiliau mewn amodau mwy dynamig.

 

Penwythnos darganfod adar Môr Môn a Phen Llŷn 25/26 Mehefin 

Gan ystyried eich sgiliau a phrofiad, wnawn wneud y gorau o’r tywydd ac amodau môr ar y diwrnod wrth archwilio darn o’r arfordir lle gwelwn adar yn nythu. Wnawn gymryd yr amser i fwynhau’r profiad o bellter sydd ddim yn achosi aflonyddwch. Mae’n gyfle i ddarganfod mwy am yr adar yma neu ymlacio wrth fwynhau gwylio’r adar. Mi ddylech chi fod yn gyffyrddus mewn ceufad môr yn amodau dŵr gwastad a gwyntoedd ysgafn ac yn awyddus i deithio mewn amodau ychydig bach fwy dynamig dan oruchwyliaeth arweinydd profiadol.

 

Teithiau clasurol Pen Llŷn, ar gyfer pobl gyda phrofiad 2/3 Gorffennaf

Gan ystyried eich sgiliau a phrofiad, wnawn wneud y gorau o’r tywydd ac amodau môr ar y diwrnod wrth archwilio darn o’r arfordir bendigedig ym Mhen Llŷn. Mi ddylech chi fod yn gyffyrddus yn eich ceufad môr mewn gwyntoedd ac amodau môr canolradd. Mi fyddwch yn awyddus i archwilio darnau o arfordir a digon ffit i badlo am 4-5 awr y diwrnod gyda seibiant o bryd i’w gilydd.

 

Penwythnos Darganfod Aberoedd Eryri 16/17 Gorffennaf

Yn edrych am daith hardd mewn ardal dawel? Mae’r llanw uchel yn y prynhawn yn rhoi’r cyfle i archwilio’r aberoedd hyfryd Eryri. Mi fydd y rhaglen yn cael ei seilio ar y tywydd ond fedrwn ystyried aberoedd y Conwy, Dwyryd a’r Mawddach. Maen nhw i gyd yn cynnig diddordeb bywyd gwyllt ac adar yn ogystal â golygfeydd bendigedig. Mi ddylech chi fod yn gyffyrddus mewn ceufad môr mewn gwyntoedd ysgafn ar dŵr gwastad.

 

Mae Anita yn hyfforddi yn yr ‘Essential Womens Sea Kayak Festival’ Ynys Môn 22-24 Gorffennaf

Mae’r digwyddiad hwn yn ddelfrydol ar gyfer merched sy’n ceufadwyr môr sy’n awyddus i ddatblygu eu sgiliau a’u hyder mewn amodau deinamig a mwynhau arfordir hardd Ynys

Rydym yn cynnig teithiau thema, gweler isod, cysylltwch â ni gyda'ch ceisiadau grŵp.

Natur a Bywyd Gwyllt

Seals on rocks

Rydym yn cynnig teithiau sy'n ymweld ag ardaloedd sy'n dda ar gyfer adar mudol a nythu. Rydych chi'n debygol o weld llawer o adar y môr ar unrhyw un o'n teithiau, ond os oes gennych ddiddordeb mewn adar edrychwch am ein teithiau 'Clogwyni Nythu Cyffroes' a 'Adfeilion ag Adar'.

Mae gennym hefyd deithiau ceufad sy'n archwilio traethlinau creigiog.

Mae rhai o'r teithiau 'Safari'r Arfordir' yn addas ar gyfer dechreuwyr ond byddent hefyd yn addas i unrhyw un sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am ecoleg y draethlin.

Hanes a Chwedlau

Kayaking at St Cwyfan

Os oes gennych ddiddordeb mewn archwilio lleoedd hanesyddol mae gennym ddigon o deithiau ceufad bydd yn addas i chi. Bydd teithiau 'Adfeilion ag Adar’ dechrau'r haf yn cynnwys cymysgedd o ddiddordeb hanesyddol  a bywyd gwyllt tymhorol.

Bydd 'Chwedlau a Chofebion' diwedd yr haf yn archwilio lleoedd o ddiddordeb hanesyddol a'r bobl sy'n gysylltiedig â hwy.

 

Mae gennym hefyd rai teithiau ar gyfer ceufadwyr profiadol sy'n archwilio cyfres o lefydd dros nifer o ddyddiau. e.e. Cestyll Arfordirol

Tirffurfiau a Morluniau

Kayaking round Llanddwyn Island

Os arfordiroedd dramatig a golygfeydd hyfryd yr ydych ar eu hôl bydd llawer o ddewis ar gael i chi. Mae nifer o’n deithiau yn archwilio morluniau trawiadol.

 

Os ydych chi'n ceufadwr cymwys sydd â diddordeb mewn gweld daeareg clogwyni oddi isod, edrychwch am deithiau 'Clogwyni Cerfluniol' a restrir o dan deithiau Canolradd.

Efallai y byddai'n werth ichi ystyried y teithiau 'Clogwyni Nythu Cyffroes'  hefyd gan y bydd y rhain yn ymweld â rhai clogwyni nythu adar môr dramatig.

Gwnawn bob ymdrech i gyflawni disgrifiadau'r cwrs. Mae gan yr arweinydd yr hawl i newid y deithlen oherwydd y tywydd ar y diwrnod. Gwneir y penderfyniadau hyn er budd gorau'r holl gyfranogwyr a byddant yn derfynol.

 

Rhaid i bob cyfranogwr o dan 18 oed fod yng nghwmni rhiant neu warcheidwad.

bottom of page