top of page

Hyfforddiant Ceufad Môr

Mae Sea Môr Kayaking yn cynnig hyfforddiant ceufad môr yng Ngogledd Cymru yn ogystal ag ardaloedd eraill yn y DU a thramor. Rydym yn cynnig cyfleoedd hyfforddiant sy'n addas ar gyfer y rhai sydd newydd gychwyn ar eu taith ddysgu ceufad môr i gaiacwyr môr profiadol sy'n ceisio hogi eu sgiliau mewn ystod o amodau mwy heriol.

 

Gallwn hefyd gynnig hyfforddiant rhagarweiniol mewn ceufad amlbwrpas, gaiacau gwastad (sit on top), canŵod a padl-fwrdd. Cysylltwch â ni i drefnu profiadau hyfforddiant pwrpasol ar gyfer unigolion a grwpiau bach.

Dilynwch ni ar gyfryngau cymdeithasol neu cofrestrwch i gael y wybodaeth ddiweddaraf trwy e-bost am deithiau wedi'u hamserlennu a diwrnodau hyfforddiant.

Dyddiadau hyfforddiant ceufad môr 2022

 

Adeiladu hyder mewn dŵr dynamig 18/19 Mehefin

Eisio datblygu’ch hyder a sgiliau er mwyn padlo mewn amodau dynamig ar y môr? Mi fyddwn ni’n datblygu’ch sgiliau symud y ceufad a defnyddio nhw mewn amgylcheddau priodol a allai gynnwys ymysg creigiau, llanw sy’n llifo neu donnau. Mi ddylech chi fod yn gyffyrddus mewn ceufad môr yn amodau dŵr gwastad a gwyntoedd ysgafn ac yn awyddus i ddatblygu’ch sgiliau mewn amodau mwy dynamig.

 

Mae Anita yn hyfforddi yn yr ‘Essential Womens Sea Kayak Festival’ Ynys Môn 22-24 Gorffennaf

Mae’r digwyddiad hwn yn ddelfrydol ar gyfer merched sy’n ceufadwyr môr sy’n awyddus i ddatblygu eu sgiliau a’u hyder mewn amodau deinamig a mwynhau arfordir hardd Ynys Môn. Mae’r digwyddiadau ar gyfer merched fel hyn yn gyfleoedd da iawn i rannu atebion i’r heriau ychwanegol sydd gennym ni fel padlwyr benywaidd. Sicr wnewch mynd i ffwrdd wedi’ch ysbrydoli!

bottom of page