top of page

Ynysoedd Iwerydd cwrs hyfforddiant preswyl, Yr Alban

Dydd Llun 10 - Iau 13 Ebril 2023

 

  • Padlo mewn ardaloedd gyda gwynt a llanw gan gynnwys torri i mewn ag allan y llif, sgiliau achub, cynllunio teithiau a fynd ar deithiau

  • 4 diwrnod o badlo dan arweiniant hyfforddwraig

  • Cymhareb mwyaf 1:4

  • Lleoliad: ynys Seil ger Oban

  • Llety wedi rhannu - cyffyrddus, clyd, llety hunanarlwyo, stof llosgi coed

  • Ceufad ag offer ar gael i logi

  • £500 yr un

view to Kerrera.jpg

Gwybodaeth Ychwanegol

 

Cwrs preswyl pedwar diwrnod wedi'i neilltuo i ddatblygu eich sgiliau caiac môr ymhlith morluniau ac ynysoedd bendigedig arfordir y gorllewin. Mae'r cwrs hwn yn cael ei redeg a'i hyfforddi gan Anita Daimond o Sea Môr Kayaking ond yn cael ei drefnu gan Alice McInnes (Sea Kayak Alice).

​

Addas ar gyfer: padlwyr sydd am ddatblygu sgiliau mewn dyfroedd llanw - 3not+ a gwyntoedd cryfach. Bydd gennych brofiad a sgiliau ar ddŵr gwastad a gwyntoedd ysgafnach ac rydych am ddatblygu ac atgyfnerthu sgiliau a hyder mewn tonnau mwy a gwyntoedd cryfach.

​

Mae'r dyfroedd o amgylch Oban, ynysoedd Kerrera, Seil, Luing a'r ardaloedd cyfagos yn cynnig rhai o'r teithiau ceufad môr gorau sydd gan yr Alban i'w gynnig. Mae Seil, Easdale, Luing, Scarba, Shuna a'r Garvellachs a’r ynysoedd llai cyfagos i gyd yn amrywio o ran daeareg a daearyddiaeth. Mae'r lleoliad hwn yn cynnig ardaloedd o lanw a dŵr symudol, a chyda chynllunio gofalus fedrwn ei osgoi neu ei ddefnyddio er ein mantais.

Gwybodaeth Archebu

​

Mae'r hyfforddiant hwn yn cael ei rhedeg ar y cyd ag Alice McInnes (Sea Kayak Alice). Sef hyfforddwraig a thywysydd profiadol o Gaeredin sy'n rhedeg teithiau ceufad môr a hyfforddiant yn yr Alban. Please follow this link to book:

https://eola.co/w/1389/activities/west-coast-scotland-skills-week

Grey dogs.JPG
bottom of page