top of page
Gwelwch mwy gyda Sea Môr Kayaking (See More) - teithiau tywys a hyfforddiant i ystod eang o allu 

Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o ddiwrnodau blasu ceufad môr, teithiau tywys ceufad a hyfforddiant ar gyfer dechreuwyr, ceufadwyr canolradd ac uwch. Rydym hefyd yn cynnal diwrnodau arbennig i deuluoedd ac i grwpiau menywod yn unig. Hefyd rydym yn ceisio cynnwys pobl ag anableddau lle bo hynny'n bosibl. Rydym yn cynnig hyfforddiant ceufad môr arbenigol a hyfforddiant chwaraeon padlo arall ar lefel ragarweiniol.

 

Rydym wedi chwarae gyda geiriau wrth ddewis yr enw Sea Môr Kayaking. Gan ein bod ni'n ddau'n Gymraeg roedden ni'n teimlo ei bod hi'n bwysig cynnwys rhywfaint o gyfeiriad at ein hunaniaeth Gymreig yn ein henw ni. Mae Sea Môr yn swnio fel ‘see more' yn Saesneg sef ‘gweld mwy’ yn y Gymraeg. Rydyn ni'n hoffi'r goblygiad hwn gan ein bod ni'n teimlo eich bod chi'n gweld mwy wrth archwilio mewn ceufad môr!

 

Mae gennym agwedd gynhwysol a'n nod yw darparu profiad wedi'i deilwra i’ch diddordebau ac anghenion fel unigolion a grwpiau. Rydym yn cynnig ein holl brofiadau yn Gymraeg a Saesneg ac yn rhagweithiol i hyrwyddo amrywiaeth. Gallwch lawr lwytho ein datganiad cynhwysiant ac amrywiaeth yma.

O'n canolfan ym Mharc Cenedlaethol Eryri rydym yn cynnal tripiau ag hyfforddiant o fewn Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Pen Llŷn ag Ynys Môn. Rydym yn arwain teithiau ac alldeithiau aml-ddiwrnod yng Nghymru, yr Alban, Lloegr a thu hwnt.

Archebwch ar brofiad a hysbysebwyd neu cysylltwch â ni i drefnu taith neu hyfforddiant ceufad môr wedi teilwra i’ch anghenion.

Morloi ger Ynys Seiriol (Puffin Island)

Ynys Môn

Beginners on Llyn Padarn small.jpg
bottom of page