top of page
Gwybodaeth am yr Ardal
Llanw Ynys Môn

Mae Sir Fôn yn fyd-enwog i bobl sy’n trafod ceufad môr oherwydd yr amrywiaeth mawr yn y llanw a chryfder y cerrynt.  Ddaw yma o bell i gael hwyl yn yr amodau llanw heriol.

 

Mae profiad a gwybodaeth leol gan yr arweinwyr bydd yn golygu medrwch archwilio’r ardal mewn amodau addas.

Daeareg

Gelwir Môn, Mam Cymru yn 'Geoparc'. Ffurfiwyd hi gan rai o greigiau hynaf y byd, sydd yn filiynau o flynyddoedd oed.  Fe welwch amrywiaeth y creigiau hyn o’r arfordir, e.e. creigiau ‘melange’ Bae Cemaes yn y gogledd a lafas gobennydd/‘pillow lavas’ ardal Llanddwyn yn y de orllewin. O’r ceufad, gwelwch y planau haenu cyflyredig dramatig llawer gwell nag o’r llwybr arfordirol. Byddwn yn archwilio tu fewn i ambell ogof a than fwa craig.

Hanes a Chynhanes

Sir Fôn yw ‘spaghetti juction’ Môr Iwerddon. Mae iddi hanes morol yn dyddio o Oes y Cerrig hyd heddiw.  Pryd y lluniwyd yr henebion cyn-hanesyddol, gan gynnwys siambrau claddu, roedd yn bosibl eu cyrraedd o’r dŵr.  Wrth fforio’r arfordir o’r môr, down i ddeall sut y lluniwyd tirlun heddiw gan newidiadau daearegol a dynol.

 

Mae Sir Fôn yn enwog am ei brwydr i geisio arbed ymosodiad y Rhufeiniaid, ac mae ynddi henebion sydd yn croniclo amddiffynfa’r ynys gan y Rhufeiniaid yn erbyn Gwyddelod ac ymosodwyr eraill.  Yma y mae ‘Cestyll a Muriau Trefol Edward yng Ngwynedd’, Safle Etifeddiaeth y Byd. Un agwedd o’r hanes cysylltiedig â’r Oesoedd Canol yw hyn; mae yma doreth o safleoedd tebyg iddi yn dyddio o’r un adeg.

​

Cewch dystiolaeth am ddatblygiadau diweddar yma hefyd, goleudai a phontydd, eglwysi hynod ac enghreifftiau o fywyd heddiw.  Byddwn yn eu dehongli mewn cyd-destun hanesyddol a Chymreig.

Natur

O amgylch arfordir gogledd Cymru mae amrywiaeth o gynefinoedd i’w darganfod.

 

Ar y creigiau, mae silffoedd digon llydan i adar nythu, gwylogod a llurogod. Ar draethau anghysbell mae nythod morwenoliaid; yno hefyd mae gwymon ac anifeiliaid cregyn, dyma fwyd yr adar.

 

Byddwn yn amseru’r teithiau ceufad ‘ Safari’r Arfordir’ er mwyn archwilio’r arfordir. Amser cinio, os cerddwn yn ofalus, gwelwn fydoedd cudd gafodd eu creu gan byllau a gwymon.  

 

Morloi llwydion Môr Iwerydd yw’r mamaliaid mwyaf cyffredin, ond gyda lwc, gwelwn ambell lamhidydd neu ddolffin.

bottom of page