Teithiau Thema Hanes
Mae Sea Môr Kayaking yn cynnig teithiau ceufad môr dan arweiniad i weld llefydd o ddiddordeb sydd wedi'u teilwra i chi. Rydym yn defnyddio ein a'n gwybodaeth hanesyddol leol a’n brofiad ceufadu er mwyn i chi fwynhau tirnodau hanesyddol o'r môr a dysgu am yr ardal leol. Mae teithio mewn ceufad môr yn ein galluogi i archwilio clogwyni nad ydynt yn hygyrch o dir neu gan gychod dŵr mwy a phwerus, sy'n eich galluogi i fwynhau henebion o safbwynt newydd. Gallwn ddarparu gwybodaeth hanesyddol ac archeolegol leol i gyd-fynd â'ch diddordebau a'ch lefelau gwybodaeth flaenorol.
Adfeilion ag Adar
Trwy gydol y flwyddyn
Byddwn yn teithio mewn ceufad i heneb arfordirol. Gallai’r opsiynau gynnwys Eglwys Sant Cwyfan, Goleudy Ynys Môn neu ynys alltraeth yn ddibynnol ar gyfeiriad y gwynt a chyflwr y môr.
Fe welwch adar môr mudol ar hyd y ffordd ac o bosibl yn nythu wrth yr heneb yn dibynnu ar yr adeg o'r flwyddyn.
Ar gael ar y mwyafrif o ddyddiadau trwy gydol y flwyddyn, cysylltwch â ni i gael argaeledd ar gyfer dyddiadau sydd gennych mewn golwg.
O:
£95*
Chwedlau a Chofebion
Trwy gydol y flwyddyn
Byddwn yn teithio i archwilio rhai tirnodau eiconig fel Pont Menai, Pentref Nant Gwrtheyrn neu un o oleudai Ynys Môn.
Byddwn yn eich difyrru gyda straeon am arwyr, cymeriadau nodedig a chyflawnwyr uchel ar hyd y ffordd. Byddwn yn rhannu straeon sy'n tarddu o lên gwerin Cymru sy'n gysylltiedig â'r morlin rydyn ni'n ei archwilio.
Ar gael rhan fwyaf y flwyddyn, cysylltwch â ni ar gyfer argaeledd.
O:
£95*
Cestyll Arfordirol
Trwy gydol y flwyddyn
Byddwn yn teithio i weld un neu fwy o’r Cestyll Edward 1af sydd yn Safle Treftadaeth y Byd. Gallai ceufadwyr profiadol cymwys ymweld â Chastell Biwmares a, naill ai, Castell Conwy neu Gastell Caernarfon mewn diwrnod.
Byddai taith o Griccieth i gêr castell Harlech yn fwy addas ar gyfer ceufadwyr llai profiadol.
A allwch chi ymgymryd â'r her o ymweld â'r holl gestyll canoloesol hyn mewn un siwrnai aml-ddiwrnod?
Ar gael rhan fwyaf y flwyddyn, cysylltwch â ni ar gyfer argaeledd.
O:
£95*
* Pris yn seiliedig ar grŵp o 4 neu mwy sydd gyda’u hoffer eu hunain. Cysylltwch â ni i gael pris yn seiliedig ar eich anghenion.