top of page
Am Sea Môr Kayaking
Anita Daimond - Cyfarwyddwr Sea Môr Kayaking

Wedi cael fy magu yng Ngogledd Cymru, fy nod oedd medru darganfod yr arfordir lleol mewn ceufad. Fel oedolyn, medrais wireddu’r freuddwyd hon gan archwilio’r arfordir hwnnw o bersbectif gwahanol y ceufad.  Rwy’n mwynhau gweld yr adar a’r anifeiliaid môr yn arbennig, a medru nesu at ffurfiannau’r creigiau.

 

Dwi wedi bod yn caiacio ers dros 18 mlynedd, rwy’n Arweinydd Uwch Ceufad Môr ac yn Hyfforddwraig Ceufad Môr amodau uwch.  Dwi wedi cynhwyso fel athrawes daearyddiaeth gyda gradd gyntaf mewn Gwyddoniaeth Amgylcheddol a gradd Meistr Addysg.

 

Ers dros 20 mlynedd bûm yn cyflwyno pobl i’r awyr agored gan eu haddysgu am natur, y tirlun ac etifeddiaeth. 

 

Rwy’n rhugl yn y Gymraeg a gallaf hyfforddi drwyddi hi, drwy’r Saesneg, neu’r ddwy. Byddaf yn mwynhau gweithio gyda phobl a cheisio sicrhau ei fod nhw’n cael profiad o’r safon gorau. Rwy’n hapus wrth weld pobl yn mwynhau profiadau newydd gan ddysgu a datblygu fel unigolion.

Anita Daimond
flag-1179172_1920.png
Ein Gwerthoedd

 

Nod Sea Môr Kayaking yw cynnig profiadau gwerth-eich-arian sy’n cydgysylltu pobl â natur a lle.

 

Ein bwriad yw hybu bod yn gyfrifol am yr amgylchedd tra’n gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau profiad a mwynhad ein hymwelwyr. 

 

Credwn bod harddwch a chymeriad arbennig yr arfordir hwn wedi ei lunio gan brosesau naturiol a gweithgaredd pobl. 

Yma yng Nghymru, mae’r iaith Gymraeg a’r diwylliant yn rhan hanfodol o’n hetifeddiaeth. 

 

Agorwn y llenni ar chwilfrydedd ein hymwelwyr.  Gobeithiwn yr ânt adre wedi ennill dealltwriaeth ddyfnach a phrofiadau bythgofiadwy.

Rob Booth
Rob Booth

 

Rwy’n wreiddiol o Aberystwyth ac yn rhugl yn y Gymraeg. Symudais i fynydd-dir gogledd Cymru yn 2004 i fwynhau’r ardal wledig hardd ac i redeg hostel ieuenctid YHA.  Yn adarwr brwd ers fy arddegau, sylweddolais fod teithio mewn ceufad môr yn ychwanegu at y profiad o wylio adar môr, o bersbectif gwahanol.

 

Ers 2011 rwy’n rheoli nifer o safleoedd Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, ac yn rhannu gydag ymwelwyr fy ngwybodaeth o fywyd gwyllt arfordir gogledd Cymru.

 

Ar bob mordaith, byddaf yn darganfod rhywbeth newydd am adar mudol, morloi a dolffiniaid. Anogaf bawb sy’n gaeth i’r gweithgaredd hwn i badlo’n gyfrifol er mwyn tarfu gyn lleied â phosibl ar fywyd gwyllt.

 

Dwi’n Arweinydd Ceufad Môr a’m hoff her yw’r Fenai.

Steve Jones Mattock

 

Cefais fy nghyflwyniad cyntaf i chwaraeon padlo pan oeddwn tua saith oed a dwi heb edrych yn ôl. Rwy'n mwynhau ystod eang o ddisgyblaethau dŵr: canŵ, SUP, dŵr gwyn a chaiacio syrffio ac wrth gwrs caiacio môr hefyd! Mwynheais rai profiadau ffurfiannol wrth ymweld â Chanolfan Awyr Agored Cwm Pennant yn fy arddegau yn caiacio môr ar yr arfordir o amgylch Gogledd Cymru.

 

Dwi wedi gweithio ym maes addysg awyr agored ac amgylcheddol ers bron i dri degawd, gan gynnwys gweithio gyda'r Cyngor Astudiaethau Maes, Clybiau i Bobl Ifanc, Gwasanaeth Ieuenctid Wrecsam a Chanolfan Addysg Awyr Agored Bryntysilio. Mae wedi bod yn bleser mawr gweithio gydag oedolion a phobl ifanc ac agor ffenestr iddynt ar ryfeddodau natur a'r awyr agored.


Symudais i Gymru i astudio Gwyddor yr Amgylchedd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn gynnar yn y 90au, gan fynd ymlaen i gwblhau cymhwyster ôl-raddedig mewn Rheoli Cefn Gwlad ym Mangor, ac, fel llawer o bobl sy'n astudio yng Nghymru, arhosais, wedi fy nghreiddio gan yr amgylchedd gwych a rhwydwaith o ffrindiau awyr agored.


Rwy'n Arweinydd Caiacio Môr Uwch cymwys, yn ogystal â hyfforddwr canŵ a dŵr gwyn Lefel 3. Edrychaf ymlaen at gyflwyno pobl i dirwedd hudol, treftadaeth, dŵr a bywyd gwyllt ein harfordiroedd 

Steve Mattock.jpg
bottom of page