Ynysoedd Scilly, Trip Ceufad Môr De-orllewin Lloegr
2024
-
Cyfarfod ar Ynys Santes Fair ar ôl i'r fferi glanio ar y diwrnod cyntaf
-
5 diwrnod o geufadu môr
-
Yn addas ar gyfer ceufadwyr ganolradd sydd â phrofiad o badlo mewn gwyntoedd hyd at 3 ar y Raddfa Beaufort a phellter o 12-15 km y dydd
-
Pris £ 575 y pen (nid yw'r pris yn cynnwys llety, fferïau na bwyd
-
Mae'r gost yn cynnwys yr holl arweinyddiaeth a hyfforddiant ceufad môr trwy gydol y daith
-
Mae’n bosib llogi ceufad môr, cysylltwch â ni am fanylion a phrisiau
-
Ar agor i bobl dros 18 mlynedd yn unig
Gwybodaeth ychwanegol
Mae Ynysoedd Scilly wedi’i lleoli oddi ar arfordir De Orllewin Lloegr; taith fferi 3 awr o Penzance, Cernyw. Gyda thraethau tywodlyd hardd, ardaloedd creigiog, llu o safleoedd archeolegol a’r Gerddi Abaty enwog ar Tresco; rydych yn sicr o gael digon o ddiddordeb ar y dŵr ymlaen ac ar lan. Bydd cyfleoedd wylio adar gwych o'r tir a thra ar y dŵr gan y bydd y tymor nythu ar y gweill.
Mae dyfroedd cysgodol rhwng y pum prif ynys (St Mary's, Bryer, Tresco, St Martin's a St Agnes) yn rhoi ystod o opsiynau siwrnai ceufad dŵr gwastad inni. Mae'r môr wedi bod yn fodd pwysig o gludiant a chyfathrebu trwy gydol hanes ac mae hyd heddiw. Byddai'r môr wedi bod yn fodd cludo yn ôl yn y cyfnod cynhanesyddol pan fyddai llawer o'r safleoedd archeolegol fel siambrau claddu wedi cael eu hadeiladu. Pa ffordd well o archwilio'r ynysoedd hyn nag mewn crefft fach fel basa’n cyndeidiau wedi'i wneud?
Byddwn wedi ein lleoli yn y maes gwersylla ar Bryher ac yn anelu dechrau pob taith oddi yno. Mae croeso i chi drefnu eich llety eich hun yn unol â'ch dewisiadau cysur eich hun. Mae teithio rhwng yr ynysoedd ar fferi yn bosibl os ydych chi am leoli eich hun ar ynys arall. Cysylltwch â ni os hoffech gael mwy o arweiniad ar wneud hyn.
Bydd yr union deithlen yn dibynnu ar y tywydd yn ystod y daith, ond byddwn yn anelu at ymweld â'r pum prif ynys os yn bosibl. Treulir mwyafrif y dydd yn padlo gyda digon o amser ar lan ar gyfer archwilio'r ardal ar droed, ymweld â chaffi, neu ymlacio ar draeth. Yn ddelfrydol bydd angen i chi allu padlo am gyfanswm o bedair awr bob dydd. Os nad ydych wedi cyrraedd y lefel hon eto, cysylltwch â ni i weld sut y gallwn eich helpu i baratoi.
Anita Daimond fydd yn arwain y daith hon; mae ganddi brofiad blaenorol o geufadu yn yr ardal ac yn gyfarwydd â’r archeoleg gynhanesyddol yr ynysoedd. Gall hi hefyd helpu chi i adnabod a dysgu am yr ecoleg a'r bywyd gwyllt a welwch. Bydd hi'n eich cefnogi chi i ymestyn eich diddordeb a'ch gwybodaeth am yr ardal i'r raddfa o ddewis chi yn ogystal â bod yn hyfforddwraig ceufad môr.
Llety a Fferi
1. Ni chynhwysir ffioedd llety yn y gost. Rydym yn argymell archebu llety ar yr ynysoedd ymlaen llaw, gan gynnwys yn Penzance y noson cyn ac ar ôl y croesfannau fferi. Rydym yn argymell teithio ar fferi fel y gallwch gludo'r ceufad y byddwch chi'n ei ddefnyddio.
2. Eich llety ar gyfer y daith yw eich dewis chi, byddwn yn gwersylla ar Bryher ac mae croeso i chi ymuno â ni.
3. Rydym yn cynghori archebu'ch fferi i'r ynysoedd cyn gynted â phosibl. Mae fferis hefyd yn teithio rhwng yr ynysoedd ac efallai y gallant eich cludo chi, eich ceufad a'ch bagiau.
Gwybodaeth Archebu
-
Mae’n bosib llogi ceufad ac offer diogelwch - cysylltwch â ni ymlaen llaw i drafod eich anghenion.
-
Argymhellir archebu'n gynnar.