Cwestiynau Cyffredin
Efallai na fydd yr atebion yma yn deilwng oherwydd rheolau Covid19. Rydym yn ailystyried sut rydym yn gweithredu yn gyson yn ôl rheolau'r Llywodraeth. Cysylltwch er mwyn derbyn gwybodaeth gweithredu fwyaf diweddar os gwelwch yn dda.
C. Beth oedd ysbrydoliaeth sefydlu Sea Môr Kayaking?
A. Rydan ni’n dau yn hoff o arfordir Gogledd Cymru a’r bywyd gwyllt yno. Un o’r ffyrdd gorau i’w brofi yw mewn ceufad. Wnaethon sefydlu Sea Môr Kayaking i alluogi pobl i fwynhau’r arfordir yn ddiogel a chyfrifol wrth ddatblygu eu doniau padlo. Enwyd 2018 yn ‘Flwyddyn y Môr’ gan Groeso Cymru ac mi wnaeth hyn helpu ysbrydoli ni.
C. Beth yw arwyddocâd yr enw: Sea Môr Kayaking?
A. Roedd dewis yr enw yn chwarae ar eiriau. Môr, Cymraeg i ddangos ein bod yn Gymry a chyfeirio at ein hunaniaeth. Sea Môr, sy’n swnio fel y Saesneg' see more'. Dewis hwn am mai wrth badlo mewn ceufad ry’ch chi wir yn ‘gweld mwy’!
C. Ble rydach chi?
A. Rydan ni’n rhannu cyfleusterau Snowdonia Watersports yn ymyl 'lygwns' glan Llyn Padarn ger Llanberis. Mae Llanberis yn fyd-enwog i ymwelwyr; mae wrth droed Yr Wyddfa, mynydd ucha’ Cymru a Lloegr.
C. Pa gyfleusterau sy’ gennych?
A. Rydan ni’n defnyddio ‘stafell ymgynnull, toiledau, cawodydd a ‘stafell sychu Snowdonia Watersports. Byddwn yn mynd â chi a’ch ‘offer’ yno. Oddi yno awn i lefydd glan môr, fel arfer drwy deithio dim mwy nag awr.
C. Alla’ i rentu/llogi ceufad ac offer ar wahân yn unig, oddiwrth Sea Môr Kayaking?
A. Na allwch, byddwn yn eu llogi dim ond i’r bobl ar ein cyrsiau. Os byddwch am logi ceufad cyn neu wedi’r cwrs, gallwch wneud hynny drwy Snowdonia Watersports (os ar gael) neu logwyr eraill.
C. Sut geufadau sy’ gennych?
A. Rydan ni’n defnyddio ceufad môr un-person fel arfer oni bai bod disgrifiad y cwrs yn dweud yn wahanol.
C. Pa offer arall rydach chi’n ei gynnig?
A. Padl, helmed, gwisg gwlyb, sgert talwrn a siaced hynofiant. Bydd angen i chi ddod â sgidiau eich hunan, er enghraifft, hen trainers.
C. Fyddwch chi’n paratoi bwyd a diod?
A. Gofynnwn i chi os gwelwch yn dda ddod â’ch bwyd eich hunain, digon o fyrbrydau i’ch cadw’n llawn egni gydol y dydd ar y dŵr. Mae caffi sydd ar agor i’r cyhoedd yn Snowdonia Watersports.
C. Beth arall sy’ angen arna’ i?
A. Os byddwch yn defnyddio’n hoffer ni, bydd angen siwt nofio arnoch i’w gwisgo o dan y gwisg gwlyb. Awgrymwn ficini neu tancini i ferched. Dewch a dilledyn cysurus ychwanegol fel ‘flîs’ i’w gwisgo amdanoch amser cinio. Os dowch a cheufad eich hunan, dowch â’r holl offer padlo hefyd.
C. Beth arall fydd eisiau arna’ i?
A. Gallwch gario camerâu a ffonau mewn bag sych yn gorff y ceufad (risg eich hunan). Rydyn ni’n cario camera sy’n dal dŵr ar bob trip, a gallwn gynnig ffotograffau i chi cyn gynted â phosibl.
C. Ai ar gyfer dechreuwyr yn unig mae eich tripiau?
A. Na, gallwn deilwra tripiau ar gyfer pawb bron. Ffoniwch ni i drafod eich anghenion a’ch diddordebau.
C. A oes oed isaf i blant?
A. Oes. Gall plant 12+ oed ddod ar ddiwrnodau brofi ar Lyn Padarn yn unig. Rhaid iddynt fod yn 14+ cyn dod ar drip môr. Rhaid i bob plentyn gael ei arolygu gan riant neu warcheidwad.
C. A oes rhaid archebu? / Sut ydw i’n archebu?
A. Rhaid, mae archebu’n hanfodol. Gallwch wneud hynny drwy ein gwefan. Bydd gennym ambell gyfle munud olaf … galwch ni ar 07399768660.
C. Alla’ i archebu dros y ffôn neu trwy e-bost?
A. Gallwch, galwch ni ar 07399768660 neu e-bostiwch info@seamorkayaking.wales a gallwch dalu drwy drosglwyddiad banc uniongyrchol.
C. Beth ddylwn i wneud os bydda’ i angen canslo?
Ewch i adran telerau ac amodau ar ein ffurflen archebu. Fe welwch fod colled wrth ganslo, ond os rhowch wybod i ni cyn gynted ag sy’n bosibl, newidiwn ddyddiad eich archeb (mae ffi fechan am wneud hyn). Gwnawn bopeth yn ein gallu i geisio ail-archebu ond rydyn ni’n argymell dylech gael yswiriant teithio yn achos salwch neu ddigwyddiad arall. Awn allan ar bob tywydd ond y gwaethaf, ond os bydd yn rhaid i ni ganslo, sy’n annhebyg, cewch gynnig dyddiad newydd neu ad-daliad llawn.
C. Beth yw enw a chyfeiriad cofrestredig eich cwmni?
Sea Môr Kayaking Cyf, 20 Water Street, Llanllechid, Bangor, LL57 3EU
Rhif cofrestredig y cwmni yw 11174746 Tel : 07399768660 / e-bost : info@seamorkayaking.wales