Teithiau Golygfaol a Daearegol
Mae Sea Môr Kayaking yn cynnig teithiau ceufad môr dan arweiniad sydd wedi'u teilwra'n dymhorol ac i’ch diddordeb chi. Rydym yn defnyddio ein gwybodaeth ddaearyddol leol a’n brofiad ceufadu er mwyn gynllunio teithiau golygfaol ar eich cyfer. Gyda dewis o olygfeydd mynyddig, ynysoedd creigiog a chlogwyni cerfiedig dramatig byddwn yn eich helpu i fwynhau arfordir golygfaol Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Pen Llŷn ac Ynys Môn.
Mae teithio mewn ceufad môr yn ein galluogi i archwilio clogwyni nad ydynt yn hygyrch o dir sydd yn golygu medrwch weld planau haenu a nodweddion daearegol trawiadol o safbwynt gwahanol. Gallwn ddarparu gwybodaeth ddaearegol, eomorffolegol a diwylliannol i gyd-fynd â'ch diddordebau a'ch lefelau gwybodaeth flaenorol.
Morluniau o Fywyd Môr
Trwy gydol y flwyddyn
Byddwn yn ceufadu ar hyd ardaloedd arfordirol golygfaol sy'n rhoi cyfle inni weld adar a bywyd gwyllt glannau’r môr yn agos wrth fwynhau golygfeydd hyfryd o glogwyni môr a môr agored.
Taith ddelfrydol ar gyfer y rhai sydd am archwilio a gweld rhywbeth newydd yng nghwmni tywysydd a all eich cyflwyno i'r ardal leol.
Ar gael rhan fwyaf y flwyddyn, cysylltwch â ni ar gyfer argaeledd os mae gennych ddyddiadau mewn golwg.
O:
£95*
Landmarks and Legends
Trwy gydol y flwyddyn
Byddwn yn teithio i archwilio rhai tirnodau eiconig fel Pont Menai, Pentref Nant Gwrtheyrn neu un o oleudai Ynys Môn.
Byddwn yn eich difyrru gyda straeon am arwyr, cymeriadau nodedig a chyflawnwyr uchel ar hyd y ffordd. Byddwn yn rhannu straeon sy'n tarddu o lên gwerin Cymru sy'n gysylltiedig â'r morlin rydyn ni'n ei archwilio.
Ar gael rhan fwyaf y flwyddyn, cysylltwch â ni ar gyfer argaeledd.
O:
£95*
Contorted Cliffs
Trwy gydol y flwyddyn
Byddwn yn teithio i, ac ar hyd, clogwyni trawiadol gan ryfeddu at y planau haenu cyflyredig. Ar hyd y ffordd byddwn yn crwydro i mewn ac allan o'r clogwyni serth gan archwilio ogofâu wrth i ni fynd.
Gydag amrywiaeth o forliniau gyda chyfeiriadaeth wahanol ar Ynys Môn gallwn ddewis archwilio darn o arfordir sydd wedi'i amddiffyn rhag yr ymchwydd (tonnau), er mwyn ddod yn agos at y clogwyni tra sicrhau'r diogelwch.
Argaeledd 2020
Cysylltwch â ni ar gyfer ddiwedd yr haf ymlaen.
O:
£95*
* Pris yn seiliedig ar grŵp o 4 neu mwy sydd gyda’u hoffer eu hunain. Cysylltwch â ni i gael pris yn seiliedig ar eich anghenion.