top of page

Teithiau a Hyfforddiant Pen LlÅ·n

Mae'r teithiau uniongyrchol yn dibynnu ar y tywydd ond byddwn ni'n anelu gwneud rhai o'r teithiau clasur sydd ar gael yn yr ardal gall cynnwys  Ynysoedd Tudwal a'r clogwyni syfrdanol ger Trefor, Aberdaron neu Porthor

​

​

Kayaking Bardsey Island

Gwybodaeth Penwythnos

 

Mae arfordir Pen LlÅ·n yn Ardal o Harddwch Cenedlaethol Eithriadol (AHNE) ac yn Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA). Mae'n cynnig ystod o arfordiroedd diddorol i archwilio o geufad môr fel clogwyni creigiog serth, ynysoedd alltraeth a thraethau hardd. Gyda dewis o arfordir y gogledd neu'r de ac ardaloedd gyda llif llanw a hebddo, gallwn ddod o hyd i lefydd i badlo mewn bron pob tywydd. Mae Ynys Enlli (Ynys Bardsey) yn gwarchod pen gorllewinol y penrhyn, ac mae'n edrych yn agos iawn, ond gyda cheryntau llanw cryf bydd angen gwyntoedd caredig arnom i fentro drostyn nhw.

 

Mae'r clogwyni a'r traethau'n darparu cynefinoedd i ystod eang  o adar y môr. Ym mis Mehefin bydd llu o adar yn nythu i'w gweld, gan gynnwys gwylogod, mulfrain gwyrdd, a gwylanod coesddu. Mae'r arfordiroedd creigiog hefyd yn darparu cyfleoedd gwych ar gyfer chwilota am fywyd gwyllt yn y pyllau ac ar y creigiau. Fe ddylen ni weld digon o forloi ac o bosib rhai morfilod. Mae traddodiad hir o gysylltiad dynol â'r arfordir ar Benrhyn LlÅ·n felly mae stori gan bron bob traeth a phentir. Mae henebion hanesyddol arfordirol fel caer pentir oes yr haearn ym Mhorth Dinllaen, castell canoloesol yng Nghriccieth a safleoedd crefyddol sy'n gysylltiedig â'r llwybr pererindod i Ynys Enlli.

 

Byddwn wedi ein lleoli yn y maes gwersylla a nodwyd fel y man cyfarfod uchod. Mae croeso i chi ymuno â ni i wersylla yno neu aros mewn llety arall gerllaw, cysylltwch â ni os hoffech gael mwy o fanylion a cyn archebu rhag ofn fedrwn gael disgownt i chi. Os nad oes gennych eich ceufad môr eich hunain neu heb gludiant eich hunain, rhowch wybod i ni wrth archebu.

 

Bydd yr union deithlen yn cael ei phennu gan y tywydd a gallu'r grŵp. Gallwn ddarparu teithiau dan arweiniad, hyfforddiant neu gymysgedd o'r ddau yn ystod y penwythnos. Yn ddelfrydol bydd angen i chi allu padlo am o leiaf pedair awr bob dydd. Rhowch wybod i ni am eich profiad wrth archebu i'n helpu ni i gynllunio yn unol â hynny ac i roi awgrymiadau i chi ar baratoi. Yn agored i bobl dros 18 mlynedd yn unig.

​

Sea Kayaking Trefor.jpg
Sea Kayaking Enlli

Cynllun amlinellol penwythnos - bydd yn cael ei addasu yn ôl gallu'r grŵp, amodau'r môr a'r tywydd

​

Diwrnod 0: Cyrraedd Pen LlÅ·n os nad ydych chi'n byw yn lleol

Diwrnod 1: Cyfarfod am 9/9.30am i drefnu'r diwrnod. Caiacio trwy'r dydd. Noswaith: ymlacio

Diwrnod 2: Cyfarfod am 9/9.30am i drefnu'r diwrnod. Caiacio y rhan fwyaf o'r dydd, mae posibilrwydd o orffen yn gynharach os bydd angen. Ymadael neu ymestyn eich arhosiad.

 

Cynllun amlinellol - bydd yn cael ei addasu yn ôl gallu'r grŵp, amodau'r môr a'r tywydd

​

Diwrnod 0: Cyrraedd Pen LlÅ·n os nad ydych chi'n byw yn lleol

Diwrnod 1: Cyfarfod am 9/9.30am i drefnu'r diwrnod. Caiacio trwy'r dydd. Noswaith: ymlacio

Diwrnod 2: Cyfarfod am 9/9.30am i drefnu'r diwrnod. Caiacio trwy'r dydd. Noswaith: ymlacio

Diwrnod 3: Cyfarfod am 9/9.30am i drefnu'r diwrnod. Caiacio trwy'r dydd. Noswaith: ymlacio

Diwrnod 4: Cyfarfod am 9/9.30am i drefnu'r diwrnod. Caiacio trwy'r dydd. Noswaith: ymlacio

Diwrnod 5: Cyfarfod am 9/9.30am i drefnu'r diwrnod. Caiacio y rhan fwyaf o'r dydd, mae posibilrwydd o orffen yn gynharach os bydd angen. Ymadael neu ymestyn eich arhosiad.

​

Nodwch: Ymestyn eich arhosiad? Cysylltwch â ni os hoffech gael diwrnodau ychwanegol o dywys / hyfforddiant neu ar gyfer teithiau cerdded / profiadau natur eraill.

Sea Kayaking Lleyn Peninsula.jpg
Near Aberdaron.jpg
P8151418.JPG
Anchor 1
PC052154 (2).JPG
morning light on Criccieth castle and Pe
bottom of page