top of page
Lefelau Gallu Ceufad 

Dechreuwr

 

Ychydig bach neu ddim profiad mewn ceufad ar ddŵr gwastad (gallai fod wedi gwneud 5 taith ceufad ar ddŵr gwastad). Mae'n debyg nad yw wedi ymarfer troi ceufad môr drosodd yn yr awyr agored.

Is - Canolradd

Padlo’n hyderus mewn llinell syth a throi gan ddefnyddio amrywiaeth o strôc ar ddŵr gwastad a gwyntoedd ysgafn. Wedi ymarfer troi caiac drosodd yn yr awyr agored tra gwisgo 'spraydeck'. Yn gallu cael yn ôl i mewn i'w ceufad mewn dŵr dwfn gyda chymorth. Wedi bod ar fwy na 5 taith ceufad môr ar ddŵr gwastad.

Canolradd

Padlo’n hyderus mewn llinell syth a throi gan ddefnyddio amrywiaeth o strôc ar ddŵr gwastad mewn gwyntoedd Beaufort 3-4 a thonnau hyd at 1.5m. Wedi ymarfer troi caiac drosodd yn yr awyr agored tra gwisgo 'spraydeck' ac wedi ymarfer cael yn ôl i mewn iddi ar ben eu hunain. Yn gallu cael yn ôl i mewn i'w ceufad mewn dŵr dwfn yn sydyn gyda chymorth . Wedi bod ar fwy na 10 taith ceufad môr. Wedi dechrau dysgu rholio eu ceufad ac wedi ymgymryd â rhywfaint o hyfforddiant achub.

Uwch

Hyderus yn ceufadu môr mewn ystod o amodau llanw a gwyntoedd cymedrol. Yn gallu rholio eu ceufad a chymryd rhan weithredol mewn sefyllfa achub.

 

Yn debygol o fod wedi gwneud dros 30 o deithiau diwrnod llawn, gyda rhai ohonynt mewn gwynt neu lanw cymedrol a / neu brofiad o daith dros nos.

Yn debygol o fod wedi padlo mewn gwyntoedd F5-6 a thonnau dros 1.5m ar adegau neu yn gweithio tuag at ddatblygu ei sgiliau yn yr amodau hyn.

bottom of page