
Croeso i Sea Môr Kayaking
Rydym yn cynnig teithiau a hyfforddiant pwrpasol ar gyfer grwpiau, unigolion a theuluoedd, hefyd gennym raglen o ddiwrnodau hyfforddiant a theithiau cewch unigolion ymuno gyda.
O'n canolfan ym Mharc Cenedlaethol Eryri rydym yn defnyddio ardaloedd Pen Llŷn ac Ynys Môn yn bennaf ar gyfer ein diwrnodau hyfforddiant a theithiau tywys. Fedrwn gynnig sesiynau hanner diwrnod neu ddiwrnod cyfan ar gyfer dechreuwyr ar Lyn Padarn, Llanberis.
Gan ddefnyddio ein gwybodaeth bywyd gwyllt ac am yr ardal leol yn ogystal â’n harbenigedd ceufad môr fedrwn roi pecyn ati gilydd er mwyn cyrraedd diddordeb ac anghenion eich grŵp sydd yn sicrhau diwrnod mwyaf hwylus posib gan ystyried y tywydd ar y diwrnod.
Gweler isod am rai dyddiadau gallwch archebu ar-lein. Cyhoeddir mwy o ddyddiadau cyn hir.
Os ydych chi'n gwneud ymholiad, rhowch gymaint o wybodaeth i ni am eich anghenion o ran dyddiadau, gallu, diddordeb ac oedrannau unrhyw rai dan 18 oed er mwyn i ni allu rhoi gwell ymateb i chi.
Cofrestrwch i'n e-newyddion i dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf. Mae’n rhaid archebu lle a thalu ymlaen llaw.
Diolch, Anita
Sylwch fod gennym hefyd gwrs hyfforddi arall sydd heb ei gynnwys ar y calendr - cliciwch ar y teitl am ragor o wybodaeth ac i archebu.
Ynysoedd Iwerydd cwrs hyfforddiant preswyl, Yr Alban; Dydd Llun 10 - Iau 13 Ebril 2023

.jpg)
